CAW70 Comisiynydd y Gymraeg. Prif amcan Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Un o’r ffyrdd y mae’r Comisiynydd yn cyflawni’r amcan hwn yw drwy ddylanwadu ar bolisi, ac yn rhinwedd y swyddogaeth hon y lluniwyd yr ymateb isod.

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Comisiynydd y Gymraeg. Prif amcan Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Un o’r ffyrdd y mae’r Comisiynydd yn cyflawni’r amcan hwn yw drwy ddylanwadu ar bolisi, ac yn rhinwedd y swyddogaeth hon y lluniwyd yr ymateb isod.

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Yn rhannol

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Rydym yn cefnogi mwyafrif egwyddorion ac amcanion Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Er hyn, mae gennym bryderon sylweddol ynglŷn â’r graddau y mae cynigion deddfwriaethol y Bil yn debygol o wireddu gweledigaeth y Llywodraeth y bydd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion fydd yn gadael y sector addysg statudol yn siarad Cymraeg a Saesneg yn hyderus. Mae’r pryderon hyn yn seiliedig ar ddau ddiffyg sylfaenol yn y Bil:

- Nid yw’n gosod sail gadarn ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, ac felly nid yw’n atgyfnerthu       amcan polisi’r Llywodraeth i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

 - Nid yw’n gosod disgwyliadau a gofynion deddfwriaethol digon cadarn er mwyn symbylu’r newidiadau fydd eu hangen i’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i defnyddio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog – a hynny er mwyn adlewyrchu amcanion a thargedau polisi strategaeth Cymraeg 2050.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn gwbl eglur ei gweledigaeth y bydd y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn darparu cyfleoedd i bob plentyn ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg. Mae’r strategaeth yn datgan yr angen i ‘gynyddu’n sylweddol nifer y dysgwyr yn y sector addysg statudol sy’n datblygu sgiliau Cymraeg, a sicrhau bod pob dysgwr yn datblygu sgiliau yn y Gymraeg i safon a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau pob dydd.’ (t.37)

Mae gweledigaeth y cwricwlwm newydd hefyd yn datgan yn gwbl eglur y dyhead y bydd pob plentyn yn datblygu sgiliau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg), waeth beth fo cyfrwng ieithyddol yr ysgol y maent yn ei mynychu.

Does dim amheuaeth felly mai un o amcanion polisi creiddiol y cwricwlwm newydd yw gwella sgiliau dwyieithog disgyblion yng Nghymru. Dyma wrth gwrs yw un o’r rhagdybiaethau creiddiol sy’n sail i’r taflwybr i’r miliwn o siaradwyr. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwireddu’r weledigaeth uchelgeisiol hon drwy ddwy strategaeth gysylltiedig. Yn gyntaf, ac yn unol â’r dystiolaeth ddiamwys am lwyddiant addysg drochi yn creu unigolion dwyieithog, mae cynlluniau uchelgeisiol er mwyn cynyddu’n sylweddol nifer y disgyblion fydd yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ail, drwy gyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru y bwriad yw diwygio’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i defnyddio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog er mwyn cynyddu’n sylweddol nifer y disgyblion yn yr ysgolion hyn fydd yn datblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus. Fel y mae strategaeth Cymraeg 2050 yn ei egluro:

‘Mae cyfraniad pwysig i’w wneud gan y sector cyfrwng Saesneg i’n nod o ddatblygu siaradwyr Cymraeg. Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr, mae angen i ni weddnewid sut rydym yn addysgu Cymraeg i ddysgwyr yn yr ysgolion hynny, er mwyn i o leiaf hanner y dysgwyr hynny allu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol. Rydym yn bwriadu datblygu un continwwm ar gyfer addysgu’r Gymraeg, gan bwysleisio dysgu Cymraeg yn bennaf fel modd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu ar lafar. Bydd yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno’r continwwm iaith i’r holl ddysgwyr a gwreiddio’r holl broses o gaffael sgiliau yn y Gymraeg ar draws y cwricwlwm dros amser. Ein  nod drwy wneud hyn yw sicrhau erbyn 2050 bod o leiaf 70 y cant o’r holl ddysgwyr yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a’u bod yn gallu defnyddio’r iaith yn hyderus ym mhob agwedd o’u bywydau erbyn iddynt adael yr ysgol.’

O ystyried y weledigaeth gwbl eglur hon ynglŷn â phwysigrwydd addysg drochi a’r angen i ddiwygio’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno yn y sector cyfrwng Saesneg, byddai disgwyl i Fil y Cwricwlwm gefnogi’r amcanion hyn. Hynny yw, drwy ddarparu sail gref i addysg cyfrwng Cymraeg a thrwy osod fframwaith deddfwriaethol cadarn er mwyn gweddnewid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i defnyddio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Nid ydym o’r farn bod Bil y Cwricwlwm yn cefnogi amcanion polisi’r Llywodraeth o safbwynt y Gymraeg yn y sector addysg statudol, ac ni allwn felly gefnogi’r Bil fel y mae’n sefyll. Fel yr ydym yn egluro mewn manylder isod, mae’r Bil ar hyn o bryd yn peryglu sail a statws addysg cyfrwng Cymraeg fel ag y mae yn bresennol, ac nid yw'n gosod fframwaith cadarn ar gyfer sicrhau y bydd trefniadau addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yn arwain at godi safonau ac yn gwella i’r dyfodol. Mae angen mynd i’r afael â’r ddau fater hyn mewn ffordd ystyrlon a chynhwysfawr. Rydym o'r farn bod angen i’r Llywodraeth gyflwyno tri newid i’r Bil:

1. Newidiadau i gymalau ar flaen y Bil o safbwynt addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg drochi, gan gynnwys newidiadau i elfennau mandadol y cwricwlwm a’r gallu i ddatgymhwyso Saesneg fel elfen fandadol. (gweler ymateb i gwestiwn 2.1.)

2. Cynnwys gofyniad yn y Bil i Weinidogion Cymru gyflwyno cod ymarfer ar addysgu’r Gymraeg. Byddai’r cod yn cynnwys cyfarwyddyd a manylder pellach er mwyn sicrhau bod trefniadau addysgu’r Gymraeg ar draws ysgolion Cymru yn arwain at godi safonau Cymraeg disgyblion yn unol ag amcanion y cwricwlwm a strategaeth Gymraeg y Llywodraeth. (gweler ymateb i gwestiwn 6.1)

3. Mae angen sicrhau sail statudol i gategorïau ieithyddol ysgolion. Roedd papur gwyn y cwricwlwm a gyhoeddwyd yn 2019 yn cynnwys ymrwymiad i roi pŵer i weinidogion drwy ddeddfwriaeth y cwricwlwm i lunio rheoliadau at y pwrpas hwn. Mae’r gwaith hwn yn allweddol at ddibenion cynllunio cwricwlwm  a threfniadaeth addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion gwahanol. Nid yw’n eglur i ni pam nad yw’r ymrwymiad hwn wedi’i gynnwys yn y Bil drafft. (gweler ymateb i gwestiwn 5.1)

Mae’r pwyntiau uchod yn amlygu ein barn gyffredinol bod egwyddor bwysig ar goll yn y Bil fel mae’n sefyll. Yr egwyddor hon yw bod angen cefnogaeth arbennig ar y Gymraeg er mwyn gwireddu’r weledigaeth y bydd cynnydd sylweddol yn nifer disgyblion Cymru fydd yn gadael y gyfundrefn addysg statudol yn siaradwyr Cymraeg a Saesneg hyderus. Nid ydym o’r farn bod Bil y Cwricwlwm fel ag y mae yn adlewyrchu amcanion polisi’r Llywodraeth o safbwynt y Gymraeg ym myd addysg.

Mae’r dyhead i sicrhau bod mwy o ddisgyblion Cymru yn derbyn manteision addysgol, cymdeithasol a phersonol dwyieithrwydd yn un clodwiw a chyfiawn. Er mai dwyieithrwydd yw’r nod, nid yw o reidrwydd yn dilyn bod angen trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gwbl gyfartal er mwyn cyflawni hyn. Yn y cyd-destun hwn mae’n hollbwysig ystyried sefyllfa gymdeithasol ac ieithyddol Cymru.  Nid yw’n faes chwarae gwastad rhwng iaith fwyafrifol ac iaith leiafrifol yng nghyswllt y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru, ac mae gwahaniaethau amlwg yn sefyllfa’r ddwy iaith sy’n cyfiawnhau triniaeth wahaniaethol o safbwynt deddfu. Ymddengys fod yr egwyddor gyffredinol hon yn un sy’n cael ei derbyn ar lefel gyffredinol (mae bodolaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn un enghraifft amlwg lle gwneir y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Nid yw’n gwneud unrhyw ddarpariaeth ar gyfer y Saesneg). Nid yr egwyddor yma yw y dylid ffafrio neu flaenoriaethu'r Gymraeg ar draul y Saesneg, ond yn hytrach fod angen cefnogaeth ddwysach ar y Gymraeg er mwyn sicrhau cydraddoldeb llawn ac effeithiol o safbwynt canlyniad. Y pwynt pwysig yw bod cyfiawnhad gwrthrychol a rhesymol dros y mesurau hynny.

Os mai un o amcanion y cwricwlwm yw sicrhau bod cynifer â phosib o unigolion yn gadael y gyfundrefn addysg statudol yn hyderus yn defnyddio’r Gymraeg a Saesneg, yna mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n gryf bod angen sylw a chefnogaeth benodol i’r Gymraeg. Hyd y gwyddom ni, nid oes unrhyw broblemau cenedlaethol a systematig yn nhermau sgiliau Saesneg disgyblion yng Nghymru. Gan dderbyn wrth gwrs bod wastad angen anelu i wella sgiliau Saesneg disgyblion Cymru, nid oes diffygion sylfaenol yng nghaffaeliaid a hyder disgyblion mewn Saesneg, gan gynnwys y rhai sy’n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Ar y llaw arall, mae tystiolaeth gref nad yw mwyafrif helaeth disgyblion Cymru yn datblygu sgiliau digonol yn y Gymraeg er mwyn gallu defnyddio’r iaith mewn ffordd ystyrlon y tu allan i’r ysgol.

Mae sefyllfa’r Gymraeg fel iaith leiafrifol ynghyd â’r dystiolaeth o fethiannau’r system addysg yn datblygu siaradwyr Cymraeg hyderus yn y gorffennol, yn cynnig achos teilwng dros gynnwys cefnogaeth arbennig ar gyfer y Gymraeg yn neddfwriaeth y cwricwlwm. Mae’r dyhead i drin dwy iaith swyddogol Cymru yn gwbl gyfartal yn neddfwriaeth y cwricwlwm yn un dealladwy, ond yn un camarweiniol, ac yn un sydd am lesteirio gweledigaeth y Llywodraeth y bydd cyfran gynyddol o ddisgyblion Cymru yn datblygu yn siaradwyr Cymraeg a Saesneg hyderus.

 

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Ydym. Fel rydym wedi nodi yn ein hymateb i gwestiwn 1.2. rydym o’r farn bod angen i’r ddeddfwriaeth gynnwys cefnogaeth gryfach i’r Gymraeg.

Yn gyntaf mae angen i’r ddeddf ddarparu sail statudol cadarn i addysg cyfrwng Cymraeg, a hynny drwy beidio tanseilio model addysg drochi cyfrwng Cymraeg. (gweler mwy am hyn yn 2.1 isod)

Yn ail, mae angen i’r ddeddfwriaeth gynnwys darpariaethau llawer cryfach o safbwynt addysgu’r Gymraeg (yn benodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg) os yw’r Llywodraeth wir am wireddu ei gweledigaeth o weddnewid deilliannau ieithyddol disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog. Mae gweledigaeth y Llywodraeth o ran diddymu Cymraeg ail iaith a cyflwyno un continwwm iaith Gymraeg, a’r targedau uchelgeisiol sydd ynghlwm â’r newidiadau hyn yn strategaeth Cymraeg 2050, yn gofyn am newidiadau sylweddol a phellgyrhaeddol i’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog. Nid yw’n rhesymol disgwyl i’r trawsnewidiad hwn ddigwydd ar sail disgresiwn ysgolion a phenaethiaid yn unig. Mae angen i’r ddeddfwriaeth gefnogi’r amcanion polisi uchelgeisiol hyn. (gweler ein sylwadau am yr angen am god ymarfer addysgu’r Gymraeg yn 6.1 isod)

 Yn olaf, mae manteision amlwg pe bai modd i’r ddeddfwriaeth gynnwys darpariaethau ar gyfer llunio rheoliadau at bwrpas diffinio categorïau ieithyddol ysgolion. Rodd darpariaeth o’r fath wedi ei chynnig fel rhan o Bapur Gwyn y Llywodraeth yn 2019, ynghyd â chydnabyddiaeth o bwysigrwydd y gwaith at ‘ddibenion cynllunio cwricwlwm a threfniadaeth ysgol.’ (t.39) (gweler 5.1 isod)

 

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Y rhwystr pennaf rhag gweithredu’r Bil yw bod cynnwys y Saesneg fel elfen fandadol yn tanseilio addysg cyfrwng Cymraeg.

Rydym yn croesawu’r cynnig i osod dyletswydd statudol ar bob ysgol a lleoliad meithrin a gynhelir i addysgu Cymraeg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm newydd. Rydym yn gwrthwynebu yn gryf y ddyletswydd ar bob ysgol a lleoliad meithrin i addysgu’r Saesneg fel elfen orfodol. Mae cynnwys Saesneg fel elfen fandadol yn gwbl groes i hanfod addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn tanseilio strategaeth addysg Gymraeg y Llywodraeth ei hun.

Er bod gwahaniaeth rhwng dysgu iaith fel pwnc a’r mater mwy cyffredinol o gyfrwng iaith ysgol, mae’r ddau beth yn gysylltiedig yn achos dysgu iaith, yn enwedig yng nghyd-destun lleoliadau meithrin, ysgolion cynradd a’r blynyddoedd cynnar. Hynny yw, bydd ei gwneud yn orfodol i addysgu’r Saesneg mewn lleoliadau meithrin ac ysgolion cynradd o reidrwydd yn golygu defnyddio’r iaith fel cyfrwng addysgu am ran sylweddol o’r cwricwlwm.

Er bod adran 26 a 27 y Bil yn cynnwys pŵer i benaethiaid a chyrff llywodraethu wneud penderfyniad i ddatgymhwyso Saesneg fel elfen fandadol ar gyfer disgyblion hyd at 7 oed, nid yw hyn yn delio â’r broblem sylfaenol o gynnwys y Saesneg fel elfen fandadol am ddau brif reswm.

Yn gyntaf, bydd y ddeddfwriaeth yn gosod addysg drochi fel rhywbeth syn gwyro o’r norm. Mae’r syniad y bydd angen i ysgolion wneud penderfyniad i ddatgymhwyso elfen orfodol o’r cwricwlwm er mwyn parhau i weithredu fel y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, ac er mwyn dilyn model addysg sy’n rhan ganolog o strategaeth iaith y Llywodraeth, yn annerbyniol o safbwynt egwyddorol ac ymarferol. Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg, a’r arfer o drochi disgyblion yn y cyfnod sylfaen, yn drefn sefydledig yng Nghymru. Ni ddylid gorfodi ysgolion o’r fath i gymryd camau ychwanegol er mwyn parhau i weithredu yn yr un modd. Mae’n cyflwyno gofynion biwrocrataidd ychwanegol a chwbl ddiangen. Mae cynlluniau’r Llywodraeth yn rhagdybio y bydd 40% o ddisgyblion yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, a nid yw’n rhesymegol disgwyl i gynifer o ysgolion  wneud cais i ddatgymhwyso elfen orfodol o’r cwricwlwm. Dylid pwysleisio unwaith eto weledigaeth y Llywodraeth o sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn datblygu sgiliau dwyieithog, a’r dystiolaeth ddiamwys o lwyddiant addysg drochi yn y cyd-destun hwn.

Yn ail, bydd gan benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion cyfrwng Cymraeg ddisgresiwn i beidio â datgymhwyso’r Saesneg fel elfen fandadol. Mae’n rhesymol pryderu y gall nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg ddewis peidio â datgymhwyso’r Saesneg (er enghraifft, er mwyn osgoi’r fiwrocratiaeth a grybwyllir uchod, sy’n cynnwys gofynion ychwanegol ar yr ysgolion hyn, fel yr amlinellir yn adran 26 (5) o’r Bil). Gall hyn yn ei dro arwain at broblemau sylweddol o safbwynt strategaeth addysg Gymraeg y Llywodraeth, a’r disgwyliadau sydd ar awdurdodau lleol i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg drwy’r CSGAau. Mae’n gwbl bosibl mewn rhai rhannau o Gymru y bydd y disgresiwn hwn dros amser yn erydu model addysg drochi cyfrwng Cymraeg ac felly yn tanseilio gweledigaeth y Llywodraeth dros yr iaith Gymraeg.

 

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nac ydy. Am y rhesymau sydd wedi’u hamlinellu uchod, nid yw’r cynigion i ddatgymhwyso’r Saesneg fel elfen orfodol yn dderbyniol o safbwynt egwyddorol nac ymarferol.

Mae’r cynigion deddfwriaethol presennol yn ddatrysiad i broblem na ddylai fod wedi codi yn y lle cyntaf ac mae wedi ein harwain at gul de sac deddfwriaethol y gallesid fod wedi ei osgoi. Credwn fod dau opsiwn er mwyn datrys y broblem hon:

1. Cynnwys y Gymraeg, ac nid y Saesneg fel elfen fandadol ar flaen y cwricwlwm

Yn dilyn yr egwyddor a amlinellwyd yn ymateb i gwestiwn 1.2. nid oes rhaid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gwbl gyfartal yn y ddeddfwriaeth. Mae rhesymau teilwng dros gynnwys y Gymraeg fel elfen fandadol yn neddfwriaeth y cwricwlwm, ac nid yw’r dadleuon hyn yn bodoli yn achos y Saesneg. Nid yw hyn yn golygu nad yw’r Saesneg yn rhan allweddol o’r cwricwlwm yng Nghymru ond yn hytrach nad oes rheswm dros ddarparu cefnogaeth arbennig ar ei chyfer drwy ei chynnwys fel elfen fandadol. Mae hyn yn cael ei dderbyn yn achos pynciau a meysydd allweddol eraill er enghraifft mathemateg a gwyddoniaeth. Mae’r Saesneg eisoes yn rhan greiddiol o’r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, yn ogystal â’r camau cynnydd ar gyfer y MDAPH hwn a’r pwyslais ar lythrennedd fel sgil trawsgwricwlaidd fandadol. Y rheswm dros gynnwys y Gymraeg fel elfen fandadol yw’r pryder na fydd ysgolion ar draws Cymru yn rhoi digon o sylw i’r Gymraeg er mwyn datblygu sgiliau dwyieithog disgyblion. Does dim pryder cyfatebol na fydd ysgolion yn rhoi digon o sylw i’r Saesneg. Byddai cynnwys y Gymraeg ac nid y Saesneg fel elfen fandadol yn gwbl gyson â gweledigaeth y Llywodraeth y bydd cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n gadael y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn hyderus yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.

2. Gosod cymalau ychwanegol ar flaen y ddeddf (rhan 1 [3]) sy’n ei gwneud yn gwbl eglur nad yw’r Saesneg yn elfen fandadol mewn ‘lleoliadau meithrin cyfrwng Cymraeg’, ac nad yw’r Saesneg yn elfen fandadol mewn ‘ysgolion cyfrwng Cymraeg’ nes bydd disgyblion yn 7 oed. Gellir egluro bod y Saesneg a’r Gymraeg yn elfennau mandadol ar gyfer ‘lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Saesneg’ a ‘lleoliadau ac ysgolion dwyieithog’ o'r cychwyn.

Byddai’r ail opsiwn hwn yn golygu bod elfennau mandadol y cwricwlwm yn amrywio yn seiliedig ar gategori ieithyddol y lleoliad meithrin neu’r ysgol ac felly yn dibynnu ar ddewisiadau addysgol rhieni a disgyblion.

Er y gellid dilyn cynsail Deddf Addysg 2002 a chynnwys diffiniad o ysgol cyfrwng Cymraeg ar flaen y ddeddf, byddem yn awgrymu mai opsiwn gwell fyddai cynnwys diffiniadau o gategorïau ieithyddol ysgolion mewn rheoliadau. O ran lleoliadau meithrin a gyllidir ond nas cynhelir, cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru fydd cyhoeddi cwricwlwm addas ar gyfer darparwyr, ac mae’n debyg gall manyleb y cwricwlwm fanylu ar yr hyn a olygir gan ‘leoliadau cyfrwng Cymraeg’ a’r gofynion gwahanol o safbwynt addysgu a defnyddio’r Gymraeg a Saesneg.

 

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Fel rydym wedi datgan yn ein hymateb i gwestiwn 1.2 rydym yn meddwl bod dau ganlyniad yn debygol o ddeillio o’r Bil fel y mae.

Yn gyntaf bydd gwneud Saesneg yn elfen fandadol o’r cwricwlwm yn tanseilio addysg cyfrwng Cymraeg, ac yn milwrio yn erbyn strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth ei hun.

Yn ail, rydym yn meddwl y bydd diffyg darpariaethau deddfwriaethol yn nhermau sut y dylid addysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y cwricwlwm newydd yn tanseilio un o amcanion craidd y cwricwlwm – sef cynyddu’n sylweddol nifer y dysgwyr fydd yn gadael ysgolion cyfrwng Saesneg yn gallu siarad Cymraeg yn hyderus. Credwn y bydd gan hyn oblygiadau difrifol yn nhermau cyflawni amcanion a thargedau strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

 

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Bydd angen buddsoddiad sylweddol yn y gweithlu ac mewn adnoddau ar gyfer ysgolion Saesneg a dwyieithog os am ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg a chyflawni amcanion y cwriciwlwm.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Mae angen pwerau ychwanegol yn y Bil i alluogi Gweinidogion i gyflwyno rheoliadau at bwrpas diffinio a gosod sail statudol i gategorïau ieithyddol ysgolion.

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru ei phapur gwyn oedd yn amlinellu’r cynigion am fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer y cwricwlwm yn Ionawr 2019, roedd ymrwymiad yno i ddarparu ‘pŵer i Weinidogion Cymru a fydd yn caniatáu iddynt ragnodi'r diffiniadau ar gyfer y categorïau iaith ysgolion drwy is-ddeddfwriaeth’ (t.35).  Ers cychwyn datblygiad y cwricwlwm newydd, mae’r Llywodraeth wedi datgan y bydd disgwyliadau gwahanol yn cael eu gosod ar ysgolion mewn categorïau ieithyddol gwahanol. Er enghraifft, roedd asesiad effaith integredig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r papur gwyn yn datgan:

‘Pennir disgwyliadau clir ar hyd un continwwm dysgu ar gyfer y Gymraeg ar ffurf gwahanol Ddeilliannau Cyflawniad ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd y Deilliannau Cyflawniad yn nodi’r deilliannau gwahaniaethol y disgwylir i ysgolion mewn categorïau ieithyddol gwahanol eu cyrraedd, a chânt eu diweddaru wrth i ysgolion wella dros gyfnod o amser.’ (t.45 a 46)

Roedd y papur gwyn yn ymhelaethu ar hyn:

‘Er mwyn nodi pa Ddeilliannau Cyflawni fydd yn gymwys i wahanol ysgolion yn ystod y cyfnod pontio, bydd y ddeddfwriaeth yn cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau a fyddai yn caniatáu iddynt ragnodi'r diffiniadau ar gyfer y categorïau iaith i'r ysgolion hynny. Bydd y diffiniadau hyn yn cael eu defnyddio at ddibenion cynllunio cwricwlwm a threfniadaeth ysgol’. (t.39)

Mae manteision amlwg o gynnwys y fath ddarpariaeth yn neddfwriaeth y cwricwlwm:

- Mae’n sail hollbwysig ar gyfer cynllunio cwricwlwm a threfniadaeth ysgol o safbwynt y Gymraeg.

- Mae’n un opsiwn o ran delio a’r broblem ynglŷn a gwneud y Saesneg yn elfen fandadol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg. Hynny yw, gellir cyfeirio at ysgolion cyfrwng Cymraeg ar flaen y ddeddf at bwrpas eithrio’r ysgolion hyn o orfod addysgu’r Saesneg cyn bod disgyblion yn 7 oed, ac yna gellid cynnwys mewn rheoliadau y manylder o ran y diffiniadau o’r categorïau ieithyddol gwahanol.

- Byddai’n hwyluso’r  broses o lunio cod a fyddai’n gosod cyfarwyddyd a chefnogaeth bellach ynglŷn â’r disgwyliadau sydd yn cael eu gosod ar ysgolion gwahanol o safbwynt y Gymraeg

- Mae canllaw y cwricwlwm eisoes yn cyfeirio at leoliadau, ysgolion a ffrydiau cyfrwng Cymraeg a Saesneg, a hynny at bwrpas pennu camau cynnydd gwahaniaethol i ysgolion mewn categorïau ieithyddol gwahanol. Er hyn, nid oes ar hyn o bryd ddiffiniad o’r hyn y mae’r categorïau hyn yn ei olygu.

- Mae’n hollbwysig o safbwynt cynllunio ieithyddol ym maes addysg statudol. Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig yng nghyswllt Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol, sydd yn rhan gwbl greiddiol o strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru

- Mae’n hollbwysig o safbwynt diffinio’n eglur natur ieithyddol gwahanol ysgolion yng Nghymru, a thrwy hynny ddarparu eglurder i rieni a disgyblion am ddeilliannau ieithyddol tebygol.

 

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

**Cod ar addysgu’r Gymraeg ar un continwwm ieithyddol. (Byddai hyn yn cyd-fynd â’r codau eraill yn Rhan 1 y ddeddf)

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn gosod her anferthol yng nghyd-destun cyfraniad y sector cyfrwng Saesneg i’r nod o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg. Bydd cyflawni targedau'r strategaeth ar gyfer y sector cyfrwng Saesneg yn golygu gweddnewid y sefyllfa gyfredol lle mai ychydig iawn o ddisgyblion y gyfundrefn addysg cyfrwng Saesneg sy’n datblygu’n siaradwyr Cymraeg hyderus. Nid yw gwneud y Gymraeg yn rhan orfodol o’r cwricwlwm yn ddigonol er mwyn cyflawni hyn. Mae angen i’r Llywodraeth gynnig arweiniad cryfach, yn ogystal â gosod gofynion deddfwriaethol pellach ar gyfer sicrhau bod ysgolion, dros gyfnod o amser, yn newid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei haddysgu a’i defnyddio.

Er bod gweledigaeth uchelgeisiol gan y Llywodraeth i ddisodli Cymraeg ail-iaith gydag un continwwm ieithyddol, nid yw’n glir ar hyn o bryd sut y bydd hyn yn arwain, dros gyfnod o amser, at weddnewid deilliannau ieithyddol disgyblion y sector cyfrwng Saesneg. Nid yw cael gwared â’r term ‘ail iaith’, a datblygu un continwwm ar gyfer disgrifio ac asesu sgiliau ieithyddol disgyblion, gyfystyr ag egluro mewn manylder yr hyn fydd yn gorfod newid yn nhrefniadau addysgu a defnyddio’r Gymraeg er mwyn codi safonau disgyblion.

Mae canllawiau’r cwricwlwm newydd yn nodi y bydd disgwyliadau gwahanol yn cael eu gosod ar ddisgyblion fydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg o’u cymharu â disgyblion mewn ysgolion dwyieithog ac ysgolion cyfrwng Saesneg. Er gwaethaf y drafodaeth am ‘gontinwwm ieithyddol’ a’r ymrwymiad i ‘ddiddymu Cymraeg ail-iaith’, ymddengys y bydd y system newydd, yn y tymor byr o leiaf, yn parhau i osod disgwyliadau gwahanol yn seiliedig ar gyfrwng iaith ysgolion (sef y sefyllfa bresennol).

Rydym yn derbyn bod y sefyllfa uchod yn anochel i ryw raddau yn y tymor byr. Y pwynt allweddol yw mai amcan polisi’r Llywodraeth yw y bydd y cwricwlwm newydd a’r continwwm ieithyddol yn blatfform ar gyfer symbylu diwygiadau mwy graddol, sylweddol a hirdymor i’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae’r Memorandwm Esboniadol (pwynt 3.137, t.37) yn datgan bod ‘gweddnewid y ffordd rydym yn addysgu’r Gymraeg i bob dysgwr, er mwyn i o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny allu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol, yn un o’r prif newidiadau gweddnewidiol y bydd eu hangen yn y sector addysg statudol’. Mae asesiad effaith integredig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Bil hefyd yn datgan y bydd y disgrifiadau dysgu ar gyfer y Gymraeg mewn lleoliadau, ysgolion a ffrydiau cyfrwng Saesneg yn cael ‘eu hadolygu o bryd i’w gilydd gyda'r bwriad yn y tymor hir o gael gwared ar y ‘sgaffaldio’ hwn a chael pob ysgol yn defnyddio'r un disgrifiadau dysgu ar gyfer y Gymraeg er mwyn gwireddu uchelgais 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.’ (t.14)

Os felly, beth yn union yw’r newidiadau sylfaenol fydd eu hangen er mwyn cael ‘gwared ar y scaffaldio’ hwn, sut y bwriedir eu cyflwyno, a sut mae’r Llywodraeth am sicrhau bod ysgolion yn gweithredu yn unol â'r weledigaeth? Nid yw canllawiau’r cwricwlwm na’r ddeddfwriaeth gysylltiedig yn cynnig unrhyw arweiniad na manylder ynglŷn â’r materion cwbl allweddol hyn.

Er bod gan y Llywodraeth weledigaeth uchelgeisiol a phellgyrhaeddol, nid oes unrhyw ymrwymiadau polisi a deddfwriaethol sy’n cyfateb i’r amcanion hyn ac nid yw Bil y Cwricwlwm yn eu hadlewyrchu. Oni bai am ddisgrifiadau dysgu sydd wedi’u cynnwys yng nghanllaw’r cwricwlwm, nid oes manylder am y disgwyliadau fydd yn cael eu gosod ar ysgolion mewn categorïau ieithyddol gwahanol. Nid oes manylder na chyfarwyddyd ynglŷn â sut a lle mae’r disgwyliadau a’r deilliannau cyflawni hyn yn eistedd ar gontinwwm iaith Gymraeg, nac ychwaith am sut yn union bydd y disgwyliadau hyn yn cael eu diwygio er mwyn ‘cynyddu’r her yn raddol’. Nid oes unrhyw arweiniad na chefnogaeth i ysgolion o ran y newidiadau sylfaenol fydd eu hangen er mwyn gallu codi safonau a symud disgyblion ar hyd gontinwwm ieithyddol.

Heb osod arweiniad a chyfarwyddyd cryfach yn y ddeddfwriaeth rwy’n ofni y bydd llwyddiant y cwricwlwm newydd o ran y Gymraeg yn dibynnu i raddau helaeth ar ddisgresiwn ac ewyllys yr ysgolion eu hunain, a hefyd ar strategaethau addysg awdurdodau lleol. Nid yw’r math hwn o strategaeth wedi gweithio yng Nghymru yn y gorffennol.

Mae’r newidiadau sylweddol sydd eu hangen er mwyn gwireddu amcanion polisi’r Llywodraeth o safbwynt y Gymraeg yn cyfiawnhau’r angen am god addysgu’r Gymraeg. Awgrymwn y dylai’r cod gynnig arweiniad a chyfarwyddyd pellach ar y materion allweddol canlynol:

- Disgwyliadau a deiliannau cyflawni eglur a manwl ar gyfer ysgolion mewn categorïau ieithyddol gwahanol: Ar hyn o bryd mae gan benaethiaid a chyrff llywodraethu ddisgresiwn llwyr o ran sut y byddant yn addysgu’r Gymraeg a pha ddeilliannau a chamau cynnydd sydd fwyaf perthnasol i’w dysgwyr. Mae angen gosod mewn cod y disgwyliadau gwahanol fydd ar ysgolion gwahanol, a hynny mewn perthynas â’r camau cynnydd a’r deilliannau cyflawniad fwyaf addas.

- Gosod y disgwyliadau gwahaniaethol hyn ar un fframwaith continwwm iaith Gymraeg gan nodi pryd ac ar ba gyflymder y disgwylir  y bydd y disgwyliadau hyn yn cael eu diwygio: Mae angen mecanwaith deddfwriaethol er mwyn darparu eglurder ynglŷn â graddfa ddisgwyliedig y cynnydd yn y disgwyliadau hyn, a fframwaith sy’n mapio’r broses o weithio tuag at dargedau Cymraeg 2050.

- Canllawiau a chefnogaeth i ysgolion o ran datblygu cwricwlwm y Gymraeg: dylid darparu arweiniad i benaethiaid ynghylch cynnwys a natur cwricwlwm sy’n debygol o fodloni’r disgwyliadau sydd wedi’u gosod ar ysgolion gwahanol o safbwynt y Gymraeg. Gallai hyn gynnwys enghreifftiau ymarferol o sut byddai addysgu’r Gymraeg yn amrywio o un lleoliad i’r llall, a sut dylai ysgolion wella eu darpariaeth dros amser.

- Canllawiau a chefnogaeth o ran defnyddio’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm: mae angen cyfarwyddyd pellach o safbwynt sut ac i ba raddau y dylid cynyddu’r cyfleoedd i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o’r cwricwlwm, yn ogystal ag mewn gweithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth.